Mae unig Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol ym Mae Caerdydd, yn dweud fod Prif Weinidog Prydain “o fewn ei hawliau” yn ymrwymo i ymosodiad ar Syria, heb ofyn barn Aelodau Seneddol.
Neges Llywydd Cenedlaethol y blaid ledled y Deyrnas Unedig, Sal Brinton, yn y gynhadledd dros y Sul oedd y dylai Theresa May fod wedi galw Tŷ’r Cyffredin yn ôl i bleidleisio cyn dechrau bomio ar y cyd ag America a Ffrainc.
Ond mae Kirsty Williams yn dweud bod gan y Prif Weinidog yr hawl i weithredu heb ymgynghori ag Aelodau Seneddol.
“Mae’n sefyllfa anhygoel o anodd ac ofnadwy yn Syria,” meddai. “Gall gweithredu milwrol fod yn ffordd o anfon neges am y defnydd hollol annerbyniol o arfau cemegol.
“Ond mae’n rhaid i ni ddyblu ein hymdrechion yn rhyngwladol i ddod o hyd i ateb hirdymor i bobol sy’n dioddef yn Syria.
“Mae yna gynsail i [alw’r Senedd yn ôl] wrth gwrs… ond dw i’n cydnabod bod y Prif Weinidog o fewn ei hawliau cyfreithiol i sancsiynu.
“Does dim gorfodaeth arni i gael pleidlais yn y Senedd… yr hyn sy’n hanfodol i fi yw bod ganddon ni strategaeth barhaus i weithio yn rhyngwladol i geisio dod o hyd i ateb i’r argyfwng arswydus yn Syria.”