Bu farw un o gymeriadau mwya’ lliwgar Sir Aberteifi a rhaglenni Talwrn y Beirdd.

Fe ddaeth Emyr ‘Oernant’ Jones yn enw cyfarwydd yn aelod o dîm Tanygroes – un o dimau gwreiddiol cyfres y Talwrn ddiwedd y 1970au.

Roedd yn gywyddwr medrus wedi iddo fynd i’r afael â dysgu cynganeddu yn nosbarthiadau T Llew Jones ac Idris Reynolds ymhell yn ei ganol oed.

Ond efallai mai ei arfer o wisgo ei sbectol yn uchel ar ei dalcen a’i gwnaeth yn gymeriad mor boblogaidd mewn talyrnau ac ymrysonau. Fe gafodd ei ddisgrifio’n annwyl fel “yr unig fardd yng Nghymru â thalcen bi-ffocal”.

Fe wnaeth ei ymddangosiad olaf ar y Talwrn mewn gornest ym Mhontgarreg ger Llangrannog ganol mis Ionawr.

Roedd yr ‘Oernant’ yn ei enw yn cyfeirio at ei fferm ar gyrion tref Aberteifi, ac roedd ei waith yn gyson gyfeirio at y byd amaethyddol.

Roedd yn chwaraewr chwist brwd iawn, ac ar ôl ennill ei ornest nos Lun yr wythnos hon y dychwelodd gartref i Oernant, a marw yn ei gwsg.