Dylai Cyngor Sir Gâr fod wedi ymgynghori mwy ynglyn â chynlluniau, cyn cymeradwyo troi rhan o adeilad eiconig yn y dref yn fwyty.

Dyna yw barn Huw Iorwerth, ysgrifennydd Cymdeithas Ddinesig Caerfyrddin, y mudiad sydd wedi cyfleu pryder am y cynlluniau ar gyfer y Guildhall.

Dan y cynlluniau, mi fydd rhai waliau ar lawr gwaelod yr adeilad rhestredig Gradd I yn cael eu dymchwel ac mi fydd cegin yn cael ei gosod yno.

Mae Huw Iorwerth yn cydnabod fod yn “rhaid cael newid”, ond mae’n pryderu bod y Cyngor wedi “brysio” i ddod i gytundeb ar y mater.  

“Mae’n adeilad o’r deunawfed ganrif, ac mae llawer o bethau wedi digwydd dros y blynyddoedd,” meddai wrth golwg360.

“Mae sawl wal wedi codi, sawl wal wedi dymchwel, a’r broblem bob amser yw penderfynu beth sy’n wreiddiol a beth sy’n haeddu cael ei gadw.

“A dyna pam rydym ni’n credu bod angen mwy o ddadl, mwy o drafod, ynglŷn â’r ffordd orau o symud ymlaen.”

Er bod y Gymdeithas Ddinesig yn gwrthwynebu’r cynlluniau, mae hi’n canmol y cyngor sir am gymryd “cam dewr” wrth brynu’r adeilad yn 2016.

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Sir Gâr am ymateb.