Mae Heddlu Gwent wedi datgelu eu rhan allweddol mewn cyrch i ddal gang a oedd wedi dwyn £1.5miliwn o beiriannau arian yng Nghymru ac ar draws de Lloegr.

Ar ôl i’r gang o dri ddwyn o beiriant mewn siop yn Rockfield ger Trefynwy, fe ddechreuodd Heddlu Gwent gydweithio gyda heddluoedd yn swyddi Caergrawnt, Hertford, Caerlŷr a Northampton lle’r oedden nhw wedi bod cyn hynny.

O fewn dim, roedden nhw wedi cael eu dal a chael eu cyhuddo o wyth bwrgleriaeth a thri achos o achosi ffrwydradau i beryglu bywyd.

Roedd cyrch yr heddlu yn enghraifft waith “gwych” ar y cyd rhwng nifer o heddluoedd, meddai’r Ditectif Arolygwr Rob Jenkins o Heddlu Gwent. Roedd hynny wedi atal criw o droseddwyr ar raddfa fawr, meddai.

Carchar i’r tri

Roedd Alfie Adams, 39 oed, Charlie Smith, 32 oed, a John Doran, 20 oed, wedi defnyddio tuniau nwy i dorri i mewn i 23 o beiriannau mewn cyfnod o dri mis yn 2017. Yn Rockfield, roedden nhw hefyd wedi defnyddio torwyr disgiau a gordd, gan ddianc mewn BMW gwyn.

Fe blediodd y tri dyn yn euog i’r troseddau yn Llys y Goron Caerlŷr ddiwedd mis Mawrth, a’r wythnos ddiwethaf fe gawson nhw eu dedfrydu garchar.

Fe gafodd Alfie Adams o Wigan ei ddedfrydu i 12 mlynedd o garchar, John Doran o Gildersome, ger Leeds i naw mlynedd o garchar, a John Doran o Lutterworth i 10 mlynedd a saith mis.