Mae gweithredoedd Llywodraeth Cymru yn bygwth achos llys ar y Cynulliad yn torri tir cwbl newydd, meddai un o sylwebwyr gwleidyddol amlyca’ Cymru.

Does yr un Llywodraeth arall yn y Deyrnas Unedig wedi gweithredu felly, meddai Gareth Hughes ar ei flog: “does dim cynsail i symudiad o’r fath”.

Gyda’r Llywydd Elin Jones wedi gwrthod cais y Prif Weinidog Carwyn Jones i beidio â chynnal dadl ynghylch adroddiad am elfen yn stori marwolaeth Carl Sargeant, mae’n ymddangos y bydd adolygiad barnwrol yn digwydd.

Yn ôl Gareth Hughes, mae hynny’n arwydd o wendid y Llywodraeth.

‘Dewis niwclear’

“Beth bynnag yw’r ddadl gyfreithiol,” meddai’r sylwebydd llawrydd, “mae’r weithred yn edrych eto fel pe bai Llywodraeth Cymru’n bod yn llawdrwm.

“Pam defnyddio’r dewis niwclear ar drothwy pleidlais os nac, wrth gwrs, nad oes ganddyn nhw ddigon o gefnogaeth i ennill y bleidlais?

“Mae’n tynnu sylw at y picil y mae’r Llywodraeth ynddo yn dilyn y digwyddiadau o amgylch ad-drefnu’r cabinet a marwolaeth annhymig Carl Sargeant.”

Y dadansoddiad

Yr awgrym yw y gallai rhai o ffrindiau Carl Sargeant – gan gynnwys ei fab, sydd bellach yn Aelod Cynulliad yn ei le – bleidleisio yn erbyn y Llywodraeth.

Dadl y Llywodraeth yw na ddylai’r adroddiad gael ei gyhoeddi er mwyn gwarchod enwau rhai o’r bobol a roddodd dystiolaeth.