Mae Llywydd y Cynulliad wedi gwrthod rhybudd cyfreithiol gan Lywodraeth Cymru rhag cynnal dadl am gyhoeddi manylion adroddiad am y diweddar weinidog Carl Sargeant.
Mewn llythyr at y Prif Weinidog, Carwy Jones, mae Elin Jones yn nodi y bydd y cynnig yn cael ei drafod, er gwaetha’ llythyr cyfreithiol hir oedd wedi’i anfon gan gyfreithwyr y Llywodraeth.
Roedd yn cynnwys bygythiad i fynd â’r mater i adolygiad barnwrol pe bai’r Llywydd yn gwrthod cydweithredu.
‘Mae’r cynnig yn parhau’
“Rwyf wedi derbyn ac ystyried eich dadleuon,” meddai Elin Jones yn y llythyr i’r Prif Weinidog, Carwyn Jones.
“Ar ôl gwneud hyn, nid wyf wedi fy argyhoeddi o’r achos rydych wedi ei gyflwyno. O ganlyniad, mae’r cynnig yn parhau wedi ei amserlennu ar gyfer dadl yfory.”
Dyma’r tro cyntaf i’r fath sefyllfa godi yn y Cynulliad, ac mae disgwyl bydd y Prif Weinidog, yn bwrw ati yn awr i alw am adolygiad barnwrol i geisio rhwystro’r ddadl.
Cefndir
Y Ceidwadwyr Cymreig sydd wedi galw am y ddadl, ar nod yw gorfodi Llywodraeth Cymru i gyhoeddi adroddiad – fersiwn wedi’i olygu – ynglwn â’r ymchwiliad i achos Carl Sargeant.
Er fod yr adroddiad yn clirio’r Llywodraeth o ollwng gwybodaeth ymlaen llaw ac yn answyddogol, mae’r Llywodraeth wedi gwrthod datgelu cynnwys yr adroddiad, er gwaetha’ pleidlais yn y Cynulliad o blaid ei gyhoeddi. Eu dadl yw bod egwyddorion ehangach yn y fantol.