Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi rhybudd cyfreithiol i Lywydd y Cynulliad rhag cynnal dadl am gyhoeddi manylion adroddiad am y diweddar weinidog Carl Sargeant.

Gyda’r peryg y gallai’r achos ddatblygu’n frwydr fawr rhwng y Llywodraeth a gweddill y Cynulliad, mae’r Ceidwadwyr yn cyhuddo’r Llywodraeth o fynd i “dir peryglus” trwy geisio “gorfodi ei hawdurdod dros y Siambr.”

“Mae dyn wedi colli ei fywyd, ac mae’n ddyletswydd arnom ni fel gwleidyddion i gael yr atebion ac i wneud yn siŵr nad yw hyn yn digwydd eto,” meddai Andrew RT Davies.

Y cefndir

Roedd y ddadl wedi cael ei galw gan y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer yfory (dydd Mercher, Ebrill 17), wrth iddyn nhw geisio gorfodi’r Llywodraeth i gyhoeddi fersiwn wedi’i olygu o’r adroddiad ynghylch a gafodd newyddion am sacio’r cyn-AC ei ryddhau i’r wasg heb ganiatâd.

Roedd Llywydd y Cynulliad wedi rhoi caniatâd iddi gael ei chynnal, ond mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb trwy geisio gwahardd y ddadl yn gyfreithiol – y tro cyntaf i sefyllfa o’r fath ddigwydd yn y Cynulliad.

Maen nhw’n dweud eu bod wedi gwneud hyn am fod egwyddorion ehangach yn y fantol.

Yr adroddiad

Fe bleidleisiodd y Cynulliad ddechrau’r flwyddyn y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi’r adroddiad ynghylch y digwyddiadau a arweiniodd at farwolaeth y cyn-weinidog – fe gafodd y sac gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones, ar ôl i gyhuddiadau o gamymddwyn rhywiol gael eu gwneud yn eu herbyn.

Roedd yr ymchwiliad ynglŷn â’r honiad fod gwybodaeth am ddiswyddo Carl Sargeant wedi ei gollwng ymlaen llaw – fe ddywedodd yr adroddiad  ar y diwedd nad oedd hynny’n wir. Ond mae’r Llywodraeth wedi gwrthod datgelu cynnwys yr adroddiad.

Ym mis Mawrth, fe ysgrifennodd prif was sifil Llywodraeth Cymru, Shan Morgan, at Aelodau’r Cynulliad yn dweud na fydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi oherwydd y gallai niweidio ymchwiliadau eraill i farwolaeth Carl Sargent.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod hyn yn “fwy nag un ddadl unigol”, a bod angen diffinio pa hawliau yn union sydd gan Lywydd y Cynulliad i gynnal dadl o’r fath dan adran yn y ddeddf o’r enw Adran 37.

“Mae’r ffordd y mae Adran 37 yn cael ei ddadansoddi gan y Llywydd yn rhoi Llywodraeth Cymru mewn safle wrthwynebus lle y bydd rhaid i ni gyhoeddi gwybodaeth heb ystyriaethau am unrhyw gyfreithiau neu hawliau eraill,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“R’yn ni’n credu bod hyn yn anghyfreithlon, ac o ystyried arwyddocâd rhai o’r materion yn adran 37, fe fyddwn ni’n ceisio cyngor pellach yn y llysoedd.”