Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod newidiadau i’r system les a threthi gan Lywodraeth Prydain yn “niweidio’r” gwaith o fynd i’r afael â thlodi plant ac incymau isel yng Nghymru.

Yn ôl adroddiad newydd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, fe fydd y newidiadau – sy’n cynnwys rhewi cyfraddau budd-daliadau i bobl oed gwaith sydd ag anableddau a chwtogi cyfraddau Credyd Cynhwysol – yn gwthio 50,000 yn rhagor o blant i dlodi yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru’n galw ar i’r llywodraeth yn Llundain weithredu ar frys i warchod y grwpiau mwya’ bregus.

Yr adroddiad

Bwriad yr adroddiad oedd dadansoddi newidiadau polisi a gafodd eu gwneud rhwng mis Mai 2010 a Ionawr 2018, a fydd wedi cael eu rhoi ar waith erbyn blwyddyn ariannol 2021-22.

Daw i’r casgliad y bydd bron i hanner yr aelwydydd yng Nghymru yn diodde’ oherwydd y newidiadau, gyda’r bobol â’r incwm isaf yn dioddef fwyaf.

Mae’r adroddiad hefyd yn dangos:

  • Bydd teuluoedd mawr yn cael eu taro’n galed, wrth i deuluoedd â thri neu ragor o blant golli tua £5,600 y flwyddyn;
  • Bydd tlodi ymhlith plant mewn aelwydydd un rhiant yn y Deyrnas Unedig yn codi o 37% i dros 62%;
  • Bydd rhieni unig sengl yn colli £5,250 y flwyddyn ar gyfartaledd – bron i bumed rhan o’u hincwm blynyddol.

“Cwbl annerbyniol” – Llywodraeth Cymru

“Mae’n gwbl annerbyniol, mewn cenedl waraidd, anwybyddu effaith y diwygiadau hyn ar gyfleoedd cyfartal,” meddai Huw Irranca-Davies, Y Gweinidog Plant ym Mae Caerdydd.

“Rydym wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gymryd camau gweithredu ar frys mewn cysylltiad â’r polisïau hyn a fydd n arwain at galedi difrifol.”