Mae “llawer o waith i’w wneud o hyd” er mwyn gwella’r gwasanaeth iechyd rhyw yng Nghymru, yn ôl un o brif feddygon y gwasanaeth iechyd cyhoeddus.

A daw hynny wrth i’r galw gynyddu’n sylweddol – mae nifer y bobol sy’n defnyddio’r gwasanaethau wedi dyblu yn ystod y pum mlynedd diwetha’.

Mae’r adroddiad newydd gan y corff Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud bod pobol yn ei chael hi’n anodd cael gafael ar wasanaethau a bod angen gwella’r systemau cadw gwybodaeth.

“Mae llawer o waith i’w wneud o hyd ynglŷn â hygyrchedd gwasanaethau, ymddygiad peryglus, moderneiddio systemau casglu gwybodaeth, cael gafael at wasanaethau erthylu a symud y gofal yn nes at y cleifion,” meddai Dr Giri Shankar, Prif Feddyg Ymgynghorol Diogelu Iechyd y corff.

Argymhellion

Mae argymhellion yr adroddiad yn cynnwys:

  • Newid y gyfraith fel bod modd cymryd meddyginiaeth ‘terfynu beichiogrwydd’ yn y cartref.
  • Ehangu rôl meddygon teulu a fferyllfeydd wrth ddarparu’r gwasanaeth.
  • Creu trefniant i gynnig gwasanaeth i bobol fregus.

“Darlun gonest”

“Roedden ni am gael darlun gonest o’r gwasanaethau, a nawr mae un gyda ni i’n helpu i wella,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, ar ran y Llywodraeth a oedd wedi comisiynu’r adroddiad.

“Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu cynllun gweithredu, ac fe fydd Bwrdd y Rhaglen Iechyd Rhywiol yn parhau yn ei le i oruchwylio a helpu i weithredu’r argymhellion dros gyfnod o ddwy flynedd.”