Fe bleidleisiodd pedwar aelod Plaid Cymru i ddangos anfodlonrwydd gyda phenderfyniad Llywodraeth Prydain i fomio Syria.

Fe ymunon nhw a’r AS Gwyrdd Caroline Lucas gydag aelodau yr SNP o’r Alban yn Nhŷ’r Cyffredin neithiwr mewn pleidlais symbolaidd i fynegi amheuon am yr ymosodiad.

Fe ddaeth hynny ar ddiwedd diwrnod o gwestiynau a dadlau am y pwnc, pan oedd nifer o ASau Llafur o Gymru wedi cefnogi’r bomio ond wedi beirniadu’r Llywodraeht am beidio â chynnal pleidlais ymlaen llaw.

‘Dim dewis’ meddai Kinnock

“Does gyda ni ddim dewis ond defnyddio grym milwrol,” meddai Stephen Kinnock, AS Aberafon, gan feio Rwsia am chwalu’r llwybr at drafodaeth.

“Mae’n fy mrifo i ddweud hyn ond y gwir trist yw fod dyfodol Syria yn nwylo’r Kremlin, Israel a llywodraeth Assad. Ond dyw hynny ddim yn golygu na allwn weithredu ac y dylen ni adael i’r arfer rhygngwladol o wahardd arfau cemegol ddod i ben.”

Roedd ASau’r Rhondda a De Caerdydd a Phenarth ymhlith y rhai a ymunodd gydag ef i gwyno na fuodd yna bleidlais ac, yn ól Albert Owen, Ynys Môn, roedd yna ddiffyg gwybodaeth hefyd.

“Roedd rhaid i ni ddibynnu ar drydar Arlywydd yr Unol Daleithiau,” meddai, gan ddweud bod Donald Trump yn datgelu’r holl gynlluniau ymlaen llaw.

‘Pob math o arfau’n ddychrynllyd’

Gan Blaid Cymru y daeth peth o’r feirniadaeth brin ar y penderfyniad i ymosod gydag arweinydd y blaid yn Nhŷ’r Cyffredin yn holi’r Prif Weinidog, Theresa May, sut y byddai’r bomio’n arbed plant rhag “ymosodiadau bwystfilaidd” yn y dyfodol.ASau Plaid C

“Mae cynllunio ar gyfer rhyfel heb gynllunio’r un mor gadarn ar gyfer heddwch yn bopeth ond trugarog. Mae arfau confensiynol ac arfau gemegol yn ddychrynllyd,” meddai Liz Saville Roberts.

Dim ond 36 oedd wedi pleidleisio yn erbyn y Llywodraeth neithiwr ond mae disgwyl i aelodau Llafur bleidleisio’n unol heddiw i alw am sicrwydd y bydd ASau’n cael rhoi barn cyn ymosodiadau pellach.