Mae astudiaeth ddiweddar o weithwyr yng ngwledydd Prydain yn awgrymu bod pobol Cymru ymhlith y mwyaf bodlon â’u swyddi a’u tâl.

Er bod gweithwyr yng Nghymru’n dweud y dylen nhw gael rhagor o gyflog, mae’r anfodlonrwydd yn llai nag mewn rhannau eraill o wledydd Prydain.

Mae’r Cymry’n dweud eu bod yn haeddu traean yn rhagor o gymharu er enghraifft â phobol gogledd-ddwyrain Lloegr sy’n dweud eu bod yn haeddu cynnydd o 45%.

Pobol Cymru yw’r hapusaf â hyd eu gwyliau hefyd – dim ond 5.8 diwrnod yn rhagor yw eu galwad nhw ar gyfartaledd, o gymharu â 9.8 diwrnod yn Llundain.

Cwmni sy’n arbenigo ar helpu pobol gyda gwneud ceisiadau am waith sydd wedi cyhoeddi’r ystadegau. Yn ôl Purple CV. cafodd 2,500 o weithwyr eu holi ledled Prydain.