Mae cynghorau Cymru’n gofyn i’r Llywodraeth am ragor o arian i dalu am ddelio gyda thywydd mawr y gaeaf.

Yn ôl eu llefarydd, fe allai’r bil cyfan fod cymaint â £10 miliwn yn fwy na’r amcangyfrifon wrth i nifer o gynghorau orfod delio gyda thri chyfnod o eira cymharol drwm.

Doedd dim modd cyllido ymlaen llaw i ddelio â gaeaf mor galed, meddai Andrew Morgan, arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a’r un sy’n arwain ar drafnidiaeth yng Nghymdeithas Lywodraeth Leol Cymru.

Lluwchfeydd

Roedd ei gyngor ef yn un o’r rhai a ddioddefodd fwya’ gydag eira cyn y Nadolig ac wedyn ddwywaith yn ystod mis Mawrth.

Bryd hynny, meddai ar Radio Wales, roedd gweithwyr wedi treulio cymaint â phump diwrnod yn clirio un ffordd i ambell ardal fwy anghysbell, oherwydd lluwchfeydd.

Roedd cynghorau fel Bro Morgannwg a Sir Fynwy hefyd wedi gorfod gwario llawer mwy na’r disgwyl gan orfod hurio peiriannau ychwanegol.

Roedd llawer o gynghorau sir eraill yn disgwyl gwario mwy na’u cyllideb yn rhannol oherwydd gwario ar halen ar gyfer y ffyrdd.

‘Ystyried’

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw’n ystyried y ffigurau ar ôl i’r Gymdeithas Lywodraeth Leol eu casglu at ei gilydd.