Mae papurau Prydeinig wedi ymateb yn feirniadol i’r newyddion fod Americanwr wedi osgoi carchar am ladd dyn o Gymru mewn damwain car ar ynys Menorca.

Dim ond carchar wedi ei ohirio a gafodd ymwelydd 25 oed, o’r enw Bryan Leeds am ladd dyn busnes o Aberporth – a hynny er ei fod wedi yfed mwy na’r terfyn cyfreithlon.

Fe gafodd Phllip Rasmussen, 47, o Aberporth ei ladd pan oedd ar feic ar yr ynys yn y Môr Canoldir – fe drawodd car Bryan Leeds yn ei erbyn.

Bargen

Mae’n ymddangos bod yr Americanwr wedi cytuno ar fargen gyda’r awdurdodau ar yr ynys – fe blediodd yn euog i gyhuddiad o ddynladdiad a chael cosb o flwyddyn o garchar wedi ei gohirio.

Roedd prawf yn dangos fod ganddo 35mg o alcohol yn ei waed – sy’n gyfartal â’r lefel gyfreithlon yng ngwledydd Prydain ond yn uwch na’r terfyn o 25mg yn Sbaen.

Er fod papurau Prydeinig fel y Sun yn cyhuddo’r awdurdodau yn Sbaen o “gyfiawnder meddal”, mae’n debyg bod y gosb yn unol â’r arfer ym Menorca.

  • Roedd Phillip Rasmussen yn dad i dri o blant rhwng 15 a 21 oed ac yn bennaeth ariannol ar gwmni IQE yng Nghaerdydd sy’n gwneud rhannau i ffonau symudol.