Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol tros Frycheiniog a Sir Faesyfed, Chris Davies yn wynebu’r posibilrwydd o fod yn destun ymchwiliad gan yr heddlu tros £700 o dreuliau.

Mae’r Mail on Sunday yn honni ei fod e wedi llunio anfonebau ffug ar gyfer dodrefn a ffotograffau ar gyfer ei swyddfa.

Mae’n cyfaddef ei fod e wedi torri’r rheolau, ond yn honni ei fod e wedi gwneud “camgymeriad gonest” wrth gofnodi’r treuliau.

Mae Heddlu Scotland Yard yn ymchwilio, yn ôl adroddiadau, ar ôl i’r achos gael ei gyfeirio atyn nhw gan IPSA, yr awdurdod safonau seneddol.

Honiadau

Mae Chris Davies wedi ei amau o ffugio dwy anfoneb – un ar gyfer £450 a’r llall ar gyfer £250 – fel bod modd derbyn treuliau yn 2016.

Mae honiad ei fod e wedi gofyn i aelod o’i staff i gyflwyno un o’r anfonebau ar ei ran.

Mewn llythyr gan y Blaid Geidwadol at Chris Davies, maen nhw’n tynnu sylw at ddifrifoldeb y sefyllfa, yn ôl y Mail on Sunday.

“Er mwyn derbyn y cyfanswm llawn o £700 drwy ddull arall, fe wnaethoch chi ffugio neu drefnu i ffugio dwy anfoneb lai, un am £450 a’r llall am £250,” meddai’r llythyr.

Mae’r llythyr hefyd yn egluro bod y cwmni y cafodd yr anfonebau eu llunio ar eu cyfer yn gwmni ffotograffau, ond nad ydyn nhw’n cynhyrchu dodrefn.

Mae Chris Davies wedi ad-dalu £450 i IPSA eisoes.

Mae’r heddlu wedi cadarnhau eu bod yn asesu’r sefyllfa.