Mae Heddlu Dyfed-Powys yn “gynyddol bryderus” am Emily Miller, 15, o Abergwaun.

Dydy hi ddim wedi cael ei gweld ers bore Gwener.

Gadawodd hi ei chartref am 9.30 y bore, a chafodd ei gweld ddiwethaf yn Noc Penfro awr a hanner yn ddiweddarach.

Mae ganddi gysylltiadau ag ardal Hwlffordd hefyd.

Mae hi’n bum troedfedd, a chanddi wallt brown at ei hysgwyddau.

Pan adawodd ei chartref, roedd hi’n gwisgo siaced gaci, jeans glas ac esgidiu rhedeg gwyn.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.