Mae arweinwyr y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru a’r Alban wedi galw am ffederaleiddio Prydain.

Daeth yr alwad gan Jane Dodds a Willie Rennie yn ystod cynhadledd wanwyn y blaid yng Nghaerdydd, wrth iddyn nhw alw am fesur i osgoi ffraeo rhwng Llywodraeth Prydain a’r gwledydd sydd â phwerau datganoledig.

Fe wnaethon nhw alw hefyd am rôl ehangach i’r gwledydd sydd wedi’u datganoli er mwyn dwyn gweinidogion San Steffan i gyfri tros Brexit.

Ar hyn o bryd, mae’r berthynas rhwng San Steffan a’r llywodraethau datganoledig wrth drafod Brexit yn ddibynnol ar berthynas dda rhyngddyn nhw.

Ond mae’r Democratiaid Rhyddfrydol am ffurfioli’r broses er mwyn cynnwys barn Cymru a’r Alban fel rhan swyddogol o’r trafodaethau.

‘Amlygu’r gwendidau’

Yn ôl Jane Dodds, mae Brexit wedi amlygu’r gwendidau yn y berthynas rhwng llywodraethau San Steffan, Cymru a’r Alban.

“Drwy gydol y Bil Ymadael, mae Llywodraeth y DU wedi anwybyddu pryderon sylweddol a dilys y llywodraethau datganoledig, gan fod yn well ganddyn nhw orfodi fframweithiau mewn meysydd datganoledig ar lywodraethau datganoledig.

“Rhaid i bob llywodraeth yn y DU gydweithio i greu fframweithiau rhyng-lywodraethol effeithiol sy’n addas ar gyfer y dyfodol, a fframweithiau sy’n parchu lles pob rhan o’r DU yn llawn.”

Ychwanegodd Willie Rennie mai fframwaith “sy’n synhwyrol i bawb” sydd wrth galon y ddadl tros Brexit.

“Rwy’n credu mai ffederaliaeth yw’r ateb; gweinyddiaethau datganoledig yn dod ynghyd i gytuno ar fframweithiau cyffredin.

“Mae’r rhan fwyaf o wledydd y byd yn gwneud hynny a dydyn nhw ddim yn gallu deall pam fod y DU yn ymddangos fel pe na bai’n gallu llywodraethu gyda synnwyr cyffredin modern.”