Mae dau ddyn wedi’u cyhuddo mewn perthynas â’r ymosodiad ar Ifan Owens yn Aberystwyth ar Ionawr 14.

Mae’r Andrew Raymond John Scott, 23, a Lee Anderson-Warnes, 20, wedi’u cyhuddo o achosi niwed difrifol bwriadol ac wedi’u cadw yn y ddalfa. Mae Raymond John Scott hefyd wedi’i gyhuddo o fod â chanabis yn ei feddiant.

Byddan nhw’n mynd gerbron ynadon yn Abertawe heddiw.

Cafwyd hyd i’r myfyriwr 19 oed yn anymwybodol yn y dref, ac roedd mewn coma tan Chwefror 11.

Roedd David Lloyd a Bill Michael Valentine eisoes wedi’u cyhuddo o ymosod ar ôl gwrandawiad gerbron ynadon yn Hwlffordd.