Mae un o bwyllgorau Cyngor Gwynedd wedi argymell y dylai cadeirydd y Cyngor gael codiad cyflog.

Yn dilyn cyfarfod ddoe (dydd Gwener, Ebrill 13), mae’r Pwyllgor Gwasanaethau Democtrataidd wedi argymell y dylai cyflog y cadeirydd gael ei uwchraddio i statws ‘Band 1’.

Ar hyn o bryd, mae’r cadeirydd, sy’n cael ei benodi bob blwyddyn, yn derbyn cyflog o £21,800  dan y statws ‘Band 2’.

Ond o dan ‘Band 1’, fe fydd y cyflog hwnnw yn codi i £23,300.

Cynyddu cyflogau eraill

Daw’r cyhoeddiad hwn ar yr adeg pan fydd cynghorwyr Gwynedd yn derbyn codiad gwerth £200 yn eu cyflog blynyddol.

Mae’r cynnydd hwn i’r £13,600 o gyflog y maen nhw’n eu derbyn ar hyn o bryd yn unol â’r argymhelliad gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol i 22 o awdurdodau lleol Cymru.

Mi fydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud yn ystod cyfarfod o’r Cyngor llawn ar Fai 3.