Nid dim ond y Cymry sy’n gwrthwynebu ailenwi’r ail Bont Hafren yn ‘Pont Tywysog Cymru’ – mae Americanwyr yn bwriadu protestio hefyd.
Eisoes bu protestio yng Nghymru tros benderfyniad Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, i roi enw newydd i’r bont yn deyrnged i’r Tywysog Charles are i ben-blwydd yn 70 oed.
Ac i gyd-fynd gydag ail brotest yng Nghaerdydd fory [14 Ebrill], mae criw sydd o blaid annibyniaeth i Gymru yn ninas Denver, Colorado yn America, yn bwriadu cynnal gwrthdystiad.
Ac mae Americanwr arall, sy’n wreiddiol o Houston, Texas, yn rhan ganolog o drefniadau’r brotest yng Nghaerdydd.
Wrth siarad â golwg360, dywed Benjamin Angwin, a ddysgodd Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, fod e’n gobeithio gweld dros 100 o bobol yn protestio yn y brifddinas fory.
A’r penwythnos nesaf, mae’r mudiad newydd y mae’n rhan ohono – Mudiad Pont Hafren – yn bwriadu trefnu tair protest arall yn erbyn y newid enw – un arall yng Nghaerdydd, un ym Mryste ac un yng Nghaernarfon.
Achos “rhyngwladol”
“Mae’n dangos bod hyn yn rhywbeth sy’n rhyngwladol oherwydd os oes Cymru mewn lleoedd eraill yn y byd, mae’n effeithio ar eu hunaniaeth nhw ac mae ganddyn nhw’r hawl i fynegi barn ar rywbeth sy’n effeithio ar hunaniaeth cenedl gyfan,” meddai Benjamin Angwin am y brotest fory yn yr Unol Daleithiau.
“Dydy e ddim yn rhywbeth Plaid Cymru yn unig, dydy e ddim yn rhywbeth Dem Rhydd [Democratiaid Rhyddfrydol] yn unig, dydy e ddim yn rhywbeth breningarwyr neu weriniaethwyr.
“… [Mae] hyn am ddemocratiaeth, dydy hyn ddim am fod yn wrth-frenhinol neu fod yn wrth-Brydeinig… mae hyn am roi hawl pobol i ddewis enw ar gyfer symbol eiconig sy’n ddrws i’w gwlad nhw.”
Cyflwyno deiseb i Alun Cairns
Dydd Mercher bydd aelodau o’r grŵp ymgyrchu newydd yn erbyn enw newydd y bont yn mynd i swyddfeydd Alun Cairns yn y Barri ac yn Llundain i gyflwyno enwau’r ddeiseb yn gwrthwynebu iddo.
Erbyn hyn mae 35,700 wedi arwyddo yn galw ar Ysgrifennydd Cymru i beidio ail-enwi’r bont.
Gwrandewch ar Benjamin Angwin yn trafod y protestio…