Mae Heddlu’r Gogledd wedi cyhoeddi rhybudd ar ôl i lety myfyrwyr ym Mangor gael ei dargedu sawl gwaith gan ladron.

Mae’r heddlu yn apelio ar fyfyrwyr i guddio unrhyw eiddo gwerthfawr yn dilyn tri digwyddiad lle cafodd arian a nwyddau drud eu dwyn.

Yr achos diweddaraf yw dwyn Xbox, PS4 ac arian o lety ar Ffordd Craig-y-Don ar 8 Ebrill yn oriau mân y bore.

Ac ar ddiwedd mis Mawrth, bu dau ddigwyddiad tebyg yn ardal Tan yr Allt, pan gafodd gliniaduron, Xbox a llawer o eitemau eraill eu dwyn.

Wrth siarad â golwg360, mae Mirain Llwyd Roberts, Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor, yn dweud ei bod yn gwybod am fyfyrwyr wnaeth ddal lleidr oedd yn ceisio mynd i mewn i’w tŷ.

“Ychydig o fisoedd yn ôl, wnaeth yna griw o fechgyn yn eu trydedd flwyddyn ddeffro i leidr yn trio mynd i mewn i’w tŷ nhw, felly mae o’n rhywbeth sy’n digwydd.

“Dydyn nhw ddim yn targedu adeiladu myfyrwyr y brifysgol achos mae rheini efo digon o ddiogelwch, ond maen nhw’n targedu rheini sydd ddim dan enw Prifysgol Bangor.

“Wnaeth un o’r bechgyn deffro a chlywed sŵn ac wedyn wnaeth o agor y drws a fan yna roedd rhywun yn trio dod mewn a wnaeth y dyn jyst heglu hi. Roedd y dyn yn trio mynd i mewn trwy’r ffenest wrth ymyl y drws.

“Dw i wedi bod yma ers tair blynedd a hanner rŵan a dw i erioed wedi sylwi bod o’n broblem. Dw i’n cofio clywed amdano fo yn digwydd i dŷ ffrind yng Nghaerdydd a meddwl; ‘Dydy o ddim yn digwydd yn y fan yma.

“Y broblem ydy bod gan fyfyrwyr natur o gadw drysau ar agor, peidio cloi, ffenestri ar agor, peidio bod yn ddigon gwyliadwrus.”

Cyngor yr Heddlu

“Yn anffodus nid yw’r math hwn o drosedd yn anghyffredin gyda llety myfyrwyr, ond byddai wedi bod yn bosibl ei osgoi gydag ychydig o gynllunio,” meddai’r Rhingyll Non Edwards.

“Felly rydym yn annog myfyrwyr yn arbennig i ddiogelu eu heiddo ac os ydynt yn gweld unrhyw bobl amheus, i adrodd amdanynt wrth yr heddlu’n syth.”

Y cyngor, meddai, yw cael Ap tebyg i ‘Find my Iphone’, sy’n gallu dod o hyd i leoliad eiddo ac i gadw’n “wyliadwrus” a rhoi gwybod am unrhyw ymddygiad amheus.