Wrth i adroddiad ddangos bod degau o filoedd o bobol yn cael trafferth i weld meddyg teulu, mae dyfodol meddygfa yn Sir Benfro yn parhau i fod yn y fantol.

Mae disgwyl i Fwrdd Iechyd Hywel Dda ddod i benderfyniad am ddyfodol meddygfa yn Sir Benfro, ar ôl cyfarfod ddiwedd y mis.

Ers dechrau’r flwyddyn, mae’r Bwrdd wedi bod yn ystyried cais i gau Meddygfa St. Clement, Neyland, oherwydd pryderon am allu staff i ddelio â’r llwyth gwaith.

Yn ôl Grŵp Meddygol Argyle – o Ddoc Penfro – mae tystiolaeth yn awgrymu bod meddygon teulu a staff cyffredinol y feddygfa’n cael trafferth ymdopi.

Mae un o bwyllgorau’r Bwrdd wedi ystyried tystiolaeth gan feddygon a thrigolion Neyland, ac wedi bod yn ystyried opsiynau’r safle ers rhai misoedd ond wedi penderfynu bod angen ystyried ymhellach a chael cyfarfod arall.

Meddygfeydd

Mae nifer meddygfeydd lleol wedi lleihau yn ystod y blynyddoedd diwetha’ a’r arolwg newydd yn dangos trafferthion cleifion i gael gweld meddyg teulu.

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru mae nifer cynyddol o bobol yng Nghymru yn cael trafferth gwneud apwyntiad â meddyg teulu.

Rhwng 2016 a 2017 roedd 21% yn ei chael hi’n “anodd iawn” i wneud apwyntiad â meddyg teulu, o gymharu â 15% rhwng 2012 a 2013.