Mae pryderon am Brexit a’i effeithiau ar ddiwydiant cig Cymru wedi ysgogi stad fawr yn y gogledd i ddechrau cadw ceirw.

Yn ôl Gareth Jones, Rheolwr Fferm Ystâd Rhug ger Corwen, mae’r diwydiant oll yn “bryderus” am dariffiau a chyfyngiadau a allai ddod wedi i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Oherwydd pryder am gwymp yn y farchnad gig oen, mae’r Rhug wedi dechrau cadw ceirw, sy’n dod yn fwy a mwy poblogaidd.

“Mae’n anodd deud [beth fydd yn digwydd],” meddai Gareth Jones wrth golwg360. “A dyna ydy’r broblem ar hyn o bryd. Does neb yn gwybod pa ffordd yr ydan ni am fynd.

“Neu, beth sy’n mynd i ddigwydd ar ôl i ni ddod allan o Ewrop. Mae’r galw yna am gig carw beth bynnag, felly dyna oedd y syniad tu ôl dechrau cadw ceirw ein hunain.”

Ceirw – cig “niche

Mae’r fferm eisoes yn prynu cig carw i’w werthu ac yn cynhyrchu cig bison – creadur o laswelltiroedd Gogledd America, sydd wedi ennyn “lot o ddiddordeb”, meddai.

Ac er bod Gareth Jones yn cydnabod nad yw’r cig anarferol yma at ddant pawb, mae’n awgrymu bod y galw yn mynd i barhau’n gryf er gwaetha’ unrhyw dariffiau a ddaw gyda Brexit.

“Dydy o byth yn mynd i gymryd drosodd gan y cigoedd eraill,” meddai. “Ond, mae ‘na alw mawr amdano fo … Dyna beth ydy ein naws ni. Niche ydan ni. Dydan ni ddim yn gwerthu i’r lluoedd.”

Ofn rheolau newydd

Ar yr un pryd, mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi codi pryderon am reolau allforio wedi Brexit.

Maen nhw’n poeni y bydd Llywodraethau Prydain a Chymru’n gosod gwaharddiad ar allforio anifeiliaid byw – cyfyngiad sy’n amhosib dan reolau marchnad rydd yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r ddwy lywodraeth wedi gofyn am dystiolaeth am y mater yr wythnos hon ond, yn ôl Glyn Roberts, Llywydd yr Undeb Amaethwyr, fe fyddai’n “gamgymeriad” cyflwyno gwaharddiad o’r fath ar yr un pryd â thariffau a thollau newydd.