Mae pwy’n union yw perchennog y safle y byddai’r Eisteddfod Genedlaethol yn dymuno ei ddefnyddio ar gyfer Maes B eleni, yn parhau’n ddirgelwch.

Oherwydd hynny, dydi trefnwyr y brifwyl ddim yn gallu cyhoeddi eto ymhle yn y brifddinas y bydd gigs yn cael eu cynnal, na sut y bydd pobol ifanc yn cael eu cludo yno ac oddi yno yn ddiogel ddechrau Awst.

Fe gyhoeddodd golwg360 ddechrau Chwefror eleni bod adeilad y Doctor Who Experience ym Mae Caerdydd yn cael ei ffafrio gan y trefnwyr – safle sydd bellach yn wag, ar ôl bod yn gartref i arddangosfa am y gyfres deledu.

Ond, mae golwg360 yn deall erbyn hyn bod dryswch mawr ynglyn â phwy ydi perchennog y safle – a dydi Llywodraeth Cymru na Chyngor Dinas Caerdydd ddim yn gallu rhoi ateb clir. 

Mi allai’r dryswch yma, ynghyd ag ymdrechion posib i ddod o hyd i denant newydd ar gyfer yr adeilad, danseilio’r gobeithion o gynnal Maes B yno. Yn ôl safle swyddogol Maes B 2018, bydd y “lleoliad yn cael ei gadarnhau yn fuan”.

Canolfan y Doctor Who Experience

Rhwng Gorffennaf 2012 a Medi 2017, roedd BBC Worldwide yn rhentu’r safle ar brydles oddi wrth Gyngor Caerdydd.

Ond, i gymhlethu pethau, mae’n ymddangos nad Cyngor Caerdydd sydd yn berchen ar y safle. Er nad yw Llywodraeth Cymru yn gallu cadarnhau hyn, y gred ydi mai hi a chwmni datblygu o’r enw Igloo sy’n gyd-berchnogion ar y safle. Mae’r ddwy ochr ynghlwm â’r prosiect adnewyddu Porth Teigr.

Rhwng 2012 a 2017, roedd yr adeilad yn gartref i arddangosfa’r gyfres deledu Doctor WhoDaeth y trefniant yma i ben wedi pum mlynedd pan ddaeth y cytundeb i ben. 

Fe wnaeth Cyngor Caerdydd wedi gwneud colled o £1.1m trwy brydlesu’r ganolfan i BBC Worldwide, gydag arian y trethdalwr yn mynd i wneud yn iawn am hyn.

Ar hyn o bryd, mae yna enwau mawr o’r byd cyfryngau – yn cynnwys adain o gwmni Sky – yn dangos diddordeb mewn rhentu’r adeilad. Pe bydden nhw eisiau symud i mewn cyn mis Awst, fe fyddai’n cymhlethu sefyllfa Maes B ymhellach.