Mae cais i ddymchwel hen adeilad ysgol gynradd yn Llanbedr Pont Steffan a chodi 20 o fflatiau a thai ar y safle wedi ei wrthod gan gynghorwyr Ceredigion.

Ar ôl trafod y cais gan gwmni Hacer Development Ltd fore ddydd Mercher (Ebrill 11), daeth Pwyllgor Rheoli Datblygu’r sir i’r casgliad na fyddan nhw’n cymeradwyo’r cais.

Petasai’r cynllun wedi cael sêl bendith y Cyngor, mi fyddai hen Ysgol Ffynnonbedr ar Heol y Bryn wedi cael ei dymchwel, gyda Wales and West Housing yn rheoli’r tai ar ôl iddyn nhw gael eu hadeiladu.

Roedd y cynllun wedi codi gwrychyn trigolion lleol gyda 70 o bobol yn arwyddo llythyr o wrthwynebiad at y datblygwyr.

Ymhlith eu pryderon oedd maint y datblygiad, yr effaith ar draffig ar y stryd, y cynnydd mewn risg o lifogydd ar Heol Bryn a Heol Cambrian, a diffyg hyder yn Wales and West Housing.

Er i’r cynllun gael ei wrthod, mae golwg360 yn deall gall Hacer Development Ltd apelio’r penderfyniad.