Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod cymorth ariannol ar gael i’r mwyafrif o fusnesau yn y diwydiant dwristiaeth, boed nhw’n fach neu’n fawr.

Dyna yw dadl Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru mewn adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi heddiw ‘ ‘Croeso i Gymru: Hybu Effaith Economaidd Twristiaeth yng Nghymru’.

Yn eu hadroddiad mae’r ffederasiwn yn dadlau bod busnesau bach yn ei chael hi’n anodd manteisio ar gronfeydd, gyda’r rhan fwyaf o arian yn cael ei roi i fusnesau mwy.

Cymorth

“Dydi busnesau bach ddim i weld yn manteisio ar gymorth gan Lywodraeth Cymru. Dyna un o ganfyddiadau mwyaf syfrdanol yr adroddiad yma,” meddai Ben Francis, Cadeirydd Policy FSB Cymru.

“A rhaid sicrhau nad grŵp bach o fusnesau bach sy’n derbyn cymorth. Rhaid sicrhau bod cymorth o fewn gafael i’r mwyafrif o fusnesau.”

Mae’r adroddiad hefyd yn galw am ddatganoli’r ‘Doll Teithwyr Awyr’ yn unol ag argymelliadau Comisiwn Silk – cynnig sydd wedi’i gefnogi yn y Cynulliad.

Croeso

“Rydym yn croesawu gwaith y Ffederasiwn Busnesau Bach i ddeall yn well y busnesau twristiaeth o fewn eu haelodaeth,” meddai llefarydd ar ran llywodraeth Cymru.

“Mae’r cymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddarparu i’r diwydiant dros y blynyddoedd diwethaf – o frandio i seilwaith a sgiliau – wedi helpu i roi twristiaeth Cymru ar lwyfan gadarn er mwyn cystadlu ar lwyfan rhyngwladol.

“Fe fyddem, wrth gwrs, yn hapus i gwrdd â’r Ffederasiwn am drafodaeth adeiladol ynglŷn â’r argymhellion mewn mwy o fanylder.”