Fe fydd grant ariannol gwerth £50,000 yn cael ei roi i achub unig Dŷ’r Meirw yng Nghymru.

Mae’r adeilad, sydd ar dir Eglwys Sant Cynog yn Bochrwyd ger y Gelli Gandryll, ar y Gofrestr Adeiladau mewn Perygl, ac mae arbenigwyr wedi rhoi llai a 12 mis iddo pe na bai gwaith brys yn cael ei wneud.

Ond gydag arian gan y Loteri Cenedlaethol, fe fydd yr adeilad yn cael ei adfer, a hynny er mwyn iddo gael ei ddefnyddio er dibenion y gymuned leol yn y dyfodol.

‘Tŷ’r Meirw’?

Fe gafodd y tŷ ei adeiladu ar dir Eglwys Sant Cynog yn ystod Oes Fictoria, a hynny fel man i storio cyrff cyn iddyn nhw gael eu claddu.

Fe gafodd yr adeilad ei gomisiynu gan y ficer ar y pryd, Henry de Winton, fel man addas yn y plwyf i storio cyrff, yn hytrach na’u gadael yn y cartrefi.

Roedd hyn wrth i bobol gredu, yn enwedig yn dilyn epidemig colera Llundain yn 1848, fod y clefyd yn cael ei ledaenu gan gyrff yn pydru.

“Hynod o gyffrous”

Bydd arian y Loteri Genedlaethol yn cael ei ddefnyddio i adnewyddu’r adeilad, gan adfer y ffenestri gwydr plwm, diogelu’r gwaith maen sy’n cynnwys graffiti o’r 19eg ganrif, ynghyd ag ailosod y llawr.

Bydd gwirfoddolwyr hefyd yn creu arddangosfa am hanes y plwyf yn yr adeilad, a fydd yn golygu y byddai’n agored i’r cyhoedd am y tro cyntaf erioed.

Ac yn ôl Ficer Eglwys Sant Cynog, Ian Charlesworth, dyma “ran gyntaf” y prosiect o adnewyddu eglwys San Cynog, ac i gynnwys y gymuned yn ei “hanes cyfoethog”.

“Mae cael yr arian hwn gan Loteri Genedlaethol yn hynod o gyffrous i ni,” meddai, “ac rydym yn edrych ymlaen i ddechrau gweithio i achub ‘Tŷ’r Meirw’ a chroesawu ymwelwyr newydd.”