Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad mewn tŷ yng Nghaernarfon, pan ddihangodd lleidr ar ôl i berchennog y tŷ darfu arno.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, fe ddigwyddodd hyn yn Stryd yr Hendre yn y dref, am tua 4.15yb ddydd Gwener diwethaf (Ebrill 6).
Fe gafodd y leidr ei styrbio yng nghyntedd y tŷ, cyn dianc yn waglaw i lawr lon fach sy’n arwain at Sgwâr Beulah, gyda’r preswyliwr yn ei ddilyn.
Mae’r lleidr yn cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn tua chwe throedfedd o daldra, yn gwisgo siaced ddu, trowsus du, ynghyd â het wlân ddu am ei ben.
Fe ddihangodd o afael y preswyliwr yn ardal Heol y De wrth ymyl garej Texaco, cyn i’r preswyliwr ddychwelyd a chanfod dwy eitem y tu allan i’w ddrws ffrynt.
Y ddwy eitem oedd iPad Pro gwyn mewn casyn lledr du a jar gwydr mawr yn cynnwys pres, ac mae lle i gredu bod y lleidr wedi’u dwyn o leoliad arall.
Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar y rhif, 101.