Mae cyngor sir yn y gogledd-ddwyrain yn mynnu nad ydyn nhw’n trin y Gymraeg yn eilradd, wrth i ddwsin o ymgyrchwyr fygwth peidio â thalu eu trethi mewn protest yn erbyn ffurflenni.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn mae’r Cyngor wedi methu â chywiro gwallau ar y bil treth cyngor blynyddol, er gwaetha’ cwynion rheolaidd ers 2014.

A bellach mae’r mudiad wedi anfon cwyn ar y mater i Gomisiynydd y Gymraeg. Mae’r Cyngor yn mynnu eu bod yn “gweithio’n galed” i ddarparu deunydd Cymraeg cywir.

“Rydym wedi gweithio’n galed dros nifer o flynyddoedd i sicrhau bod ein holl ffurflenni yn gywir yn y Gymraeg a’r Saesneg,” meddai Mark Owen, Pennaeth Cyllid at Gyngor Wrecsam.

“A hoffwn bwysleisio’r ymdrech sylweddol a wnaed  i sicrhau fod ein biliau i gyd yn ddwyieithog, a bod yr iaith Gymraeg ddim yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.”