Heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 10) mae Llywodraeth Cymru yn dechrau casglu’r farn am wahardd allforio anifeiliaid byw er mwyn eu lladd dramor.

Ar hyn o bryd, nid yw’n bosib gwahardd allforio anifeiliaid oherwydd rheolau masnach rydd yr Undeb Ewropeaidd.

Ac ar gyfer yr amser y bydd y Deyrnas Unedig yn ymadael ag Ewrop, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dweud ei bod nhw’n barodi i gydweithio â Llywodraeth San Steffan, ynghyd â’r Alban a Gogledd Iwerddon, i ystyried sut y gall safonau lles anifeiliaid sy’n cael eu cludo gael eu gwella.

Paratoi ar gyfer Brexit

“Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i gynnal y safonau lles uchaf posib ar gyfer pob anifail yng Nghymru, ac mae’n barn ynghylch allforio anifeiliaid byw i’w lladd yn glir,” meddai Lesley Griffiths, yr Ysgrifennydd dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig.

“Byddai’n well gennym fod anifeiliaid yn cael eu lladd cyn agosed â phosib i’w man cynhyrchu a chredwn fod masnachu cig a chynhyrchion cig yn well na chludo anifeiliaid yn bell i’w lladd.

“Dyna pam rydyn ni’n cefnogi’r cais hwn am dystiolaeth ar waharddiad ledled y Deyrnas Unedig ar allforio anifeiliaid byw i’w lladd dramor.”