Mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â gwrthdrawiad yn Abergele dros y penwythnos, pan gafodd cerddwr ei daro gan gar.

Yn ôl yr heddlu, fe ddigwyddiad y gwrthdrawiad toc cyn 10yh nos Sadwrn (Ebrill 7), gyda’r cerbyd yn taro dyn 22 oed tra oedd yn cerdded ar hyd Groes Llwyd yn Abergele.

Fe gafodd y cerddwr ei gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans, lle mae’n parhau i fod mewn cyflwr “difrifol wael”, ond nid yw ei anafiadau’n bygwth ei fywyd.

Mae Heddlu Gogledd Cymru newydd gadarnhau fod dyn wedi cael ei ddwyn i’r ddalfa mewn cysylltiad â’r digwyddiad, ac mae eu hymholiadau’n parhau.

Maen nhw’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth bellach i gysylltu â nhw ar y rhif, 101.