“Ymateb diog, unoliaethol yn neidio i fychanu’r Cymry a’r Gymraeg” oedd gan golofnydd y Sunday Times, Rod Liddle wrth ddweud ei ddweud am ailenwi Ail Bont Hafren yn Bont Tywysog Cymru, yn ôl Aelod Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts.

Yn y golofn, mae Rod Liddle yn dweud bod y bont yn “cysylltu eu cymoedd glawiog gyda’r Byd Cyntaf”.

Wrth gyfeirio at arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, mae’n dweud bod y rhai sy’n gwrthwynebu’r enw newydd yn cael eu harwain gan “y fenyw honno o Blaid Cymru sydd ar Question Time o hyd”.

Ac yna mae ei ymosodiad uniongyrchol ar y Gymraeg yn dechrau, wrth iddo ddweud y byddai’r Cymry’n hoffi enwi’r bont yn “rhwybeth annealladwy heb lefariaid go iawn, fel Ysgythysgymlngwchgwch Bryggy”.

Ond mae’n ‘ildio’ wedyn gan alw ar i’r Cymry “gael eu ffordd eu hunain”, cyn ychwanegu “cyhyd ag y bo’n galluogi pobol i fynd o’r lle ar unwaith, a ddylen ni boeni beth mae’n cael ei galw?”

‘Hen ragfarnau’

Wrth siarad â golwg360, dywedodd Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, fod colofn Rod Liddle yn amlygu “hen ragfarnau sy’n cael eu cyflwyno i ddarllenwyr colofn Rod Liddle fel adloniant”.

Mae’n dweud fod agwedd Rod Liddle yn arwydd o agwedd Lloegr at wledydd eraill Prydain.

Dywedodd fod “eironi yn hyn, ar adeg ’dan ni’n gweld uniolaeth ar gynnydd adeg Brexit, o gymharu Cymru yn dlawd fel rain-sodden valleys gyda’r Byd Cyntaf dros yr afon… ar adeg pan fo’r llywodraeth yn awyddus i dynnu ni at ein gilydd.”

Yn ôl Liz Saville Roberts, mae’r golofn yn “cymryd yn ganiataol fod ei ddarllenwyr o yn cychwyn o safbwynt Lloegr ac mae unrhyw beth yn wahanol i safbwynt Lloegr yn rywbeth i’w fychanu”.

‘Elfen ohona i’n hynod falch’

Er bod y golofn yn lladd ar arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, dywedodd Liz Saville Roberts fod “elfen” o falchder ganddi fod y blaid dan y lach.

Ychwanegodd: “Mae’n bychanu Leanne Wood fel arweinydd Plaid Cymru, er mae yna elfen ohona i’n hynod falch mai Plaid Cymru’n sy’n cael y bai gynno fo am arwain yr ymgyrch yn erbyn yr ailenwi unllygeidiog heb ymgynghori.”

Mae hi hefyd yn beirniadu’r ffordd yr aeth y broses ailenwi rhagddi heb ymgynghoriad cyhoeddus.

“Be’ sydd yn hynod ddiddorol am y ffordd mae’r bont wedi cael ei henw newydd, yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn un peth ydi bod o wedi dewis ei henwi ar ôl Tywysog Carlo ond yn ail, er bod y ddau beth yn bwysig, fod yna ddim ymgynghori wedi bod.

“Mae ’na draddodiad o fewn Plaid Cymru gyda ailenwi rhywbeth fel pontydd a rhywbeth o bwys i bobol leol. Mae’r ddau beth wedi corddi pobol.”

‘Haerllugrwydd a thrahauster’ Alun Cairns

Ychwanegodd fod pobol Cymru wedi’u cynddeiriogi gan “haerllugrwydd a thrahuaster” Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns sy’n credu “ei fod o’n gallu tynnu enw allan o het a meddwl bod y gweddill ohonon ni’n mynd i dderbyn yr enw yna.

Wrth ddweud fod y “mwyafrif tawel” o blaid yr ailenwi, mae Liz Saville Roberts yn cyhuddo Alun Cairns o “afael mewn unrhyw ddadl bosib i gyfiawnhau’r hyn mae o wedi’i wneud”, ac mae’n dweud na all Ysgrifennydd Cymru wybod barn y Cymry go iawn heb ymgynghori.

“Os ydi’r mwyafrif yn ddistaw, dw i ddim yn gwybod sut mae o’n psychic yn gwybod be’ ydi barn pobol. Ond dw i’n gwybod yn iawn erbyn rŵan fod 26,000 o bobol wedi deud fel arall, eu bod nhw’n anfodlon gyda’r enw ac yn enwedig yn anfodlon gyda’r ffordd mae’r enw wedi cael ei roi ar y bont.”

Ychwanegodd y byddai ymgynghoriad ar enw’r bont yn “gyfle i bobol Cymru ddathlu’r ffaith bo nhw ddim yn gorfod talu toll bellach”.

Protest genedlaethol

Mae cynlluniau ar y gweill erbyn hyn i gynnal protest genedlaethol ym mhob cwr o Gymru yn erbyn yr ailenwi yn erbyn yr hyn mae Liz Saville Roberts yn ei alw’n “orfodaeth gwbl ddiangen”.

Wrth gyfeirio’n benodol at ymateb Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, ychwanegodd: “Dw i’n gobeithio’i fod o’n synnu ar yr ymateb erbyn rŵan ac yn meddwl o safbwynt ei lywodraeth ei hun sydd yn brolio’r undeb ac yn tynnu pobol at ei gilydd, sut mae’r un weithred ddifeddwl wedi chwalu hynny.”