Mae dynes 31 oed o Abertawe wedi’i chyhuddo o lofruddio John ‘Jack’ Williams, 67 o ardal Pentrechwyth y ddinas.

Cafodd Gemma Owen ei chadw yn y ddalfa gan ynadon yn dilyn gwrandawiad fore heddiw.

Mae dyn 45 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddio, a dyn 48 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr. Mae’r ddau yn y ddalfa o hyd.

Mae’r heddlu’n parhau i apelio am wybodaeth ar ôl i gorff John ‘Jack’ Williams gael ei ddarganfod yn ei gartref ar Heol Pentrechwyth yr wythnos ddiwethaf.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.