Mae’r Gymraes Elinor Barker wedi ennill medal aur i Gymru ar y trac seiclo yng Ngemau’r Gymanwlad ar Arfordir Aur Awstralia.

Daeth hi i’r brig yn y ras bwyntiau i ferched, wrth i’r ddwy Albanes Katie Archibald (arian) a Neah Evans (efydd) gyrraedd y podiwm hefyd.

Mae penderfyniad y Gymraes i ganolbwyntio ar y ras bwyntiau yn hytrach na’r rasys cwrso wedi talu ar ei ganfed.

Roedd hi ar y blaen erbyn hanner ffordd drwy’r gystadleuaeth, a wnaeth hi ddim ildio’i safle wedyn.