Mae Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o ddefnyddio dadl “gwbl ddideimlad” i gyfiawnhau torri grantiau gwisg ysgol.

Bellach mae wedi dod i’r amlwg bod Llywodraeth Cymru wedi dileu grant £700,000 fu’n helpu teuluoedd tlawd i brynu gwisgoedd ysgol.

Eu cyfiawnhad nhw yw bod cost gwisg ysgol wedi disgyn a’i bod yn haws cael gafael arnyn nhw erbyn hyn. Hefyd maen nhw’n nodi bod ysgolion wedi’i hannog i gadw’r costau’n isel.

“Am swm gymharol fychan o arian, mae miloedd o’r teuluoedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn derbyn cefnogaeth gwbl hanfodol,” meddai Leanne Wood.

“Mae defnyddio’r ddadl bod cost gwisg ysgol wedi gostwng yn gwbl ddideimlad, wrth gofio fod teuluoedd sydd yn dioddef yn ariannol wedi gorfod talu’r pris yn sgil llymder, toriadau a newidiadau i’r systemau lles a chredydau treth.”

Llythyr

Gan ymateb i’r cyhoeddiad, mae Leanne Wood wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, i herio’r penderfyniad.

“Yng Nghymru yn 2018 ni ddylai unrhyw blentyn ddioddef yr anghyfforddusrwydd corfforol neu ddiffyg urddas sy’n gallu deillio o’r fath sefyllfa,” meddai Leanne Wood.

Ymateb Kirsty Williams

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn llwyr ymwybodol o effeithiau cynnu ariannol  a dyna pam mae hi wedi cynyddu’r cymorth ar gyfer y disgyblion mwyaf difreintiedig i £93.7m.

“Ar draws y Llywodraeth, mae arian i Lywodraeth Leol wedi ei flaenoriaethu er mwyn i adnoddau fynd yn syth at y rheng flaen i gefnogi ysgolion. Roedd dod a’r cynllun hwn, a ariennir yn ganolog, i ben yn rhan o’r broses honno. Rydym yn falch fod nifer o gynghorau eisoes wedi cadarnhau byddant yn parhau â’r cynllun.

“I gefnogi holl deuluoedd, nid dim ond y rheini a phlant ym mlwyddyn 7, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ystyried ffyrdd ymarferol o gadw cost gwisg ysgol yn isel, gan gynnwys cyflwyno  canllawiau statudol.”

“Roedd Aelodau’r Cynulliad wedi cael cyfle i graffu a phleidleisio ar y materion hyn pan gyhoeddwyd setliad Refeniw Llywodraeth Leol y llynedd”.