Mae un o gyn-gyflwynwyr S4C yn credu y byddai yn fwy “perthnasol a derbyniol” i enwi’r ail bont Hafren ar ôl y Dywysoges Diana.

Fe gododd ffrae fawr yr wythnos hon wedi’r cyhoeddiad bod y bont am gael ei henwi yn ‘Bont Tywysog Cymru’.

Erbyn hyn mae 15,000 wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu’r syniad o enwi’r bont ar ôl Charles, mab hynaf Brenhines Lloegr.

Yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, bydd galw’r bont yn ‘Bont Tywysog Cymru’ yn deyrnged “addas” i’r Tywysog Charles, sy’n dathlu 60 mlynedd ers cael ei enwi’n Dywysog Cymru.

Ond er ei bod wedi cydweithio gyda Charles ar sawl prosiect yn y gorffennol, nid yw Amanda Protheroe-Thomas yn cytuno gydag enwi’r ail Bont Hafren yn deyrnged iddo.

“Mae rhywbeth am y bont yna sy’n agos iawn at galonnau pobol Cymru,” meddai cyn-gyflwynydd Sgorio wrth golwg360, “ac er fy mod i’n cefnogi’r Tywysog, dw i ddim yn meddwl mai dyna’r enw iawn i’r bont…

“Os bydde fe’n cael ei henwi ar ôl y Dywysoges Diana – roedd pobol yn hoff iawn ohono hi, yn enwedig pobol Cymru – mi fyddai hynny’n fwy perthnasol a derbyniol.”

Achub cam y Tywysog

 Mae Amanda Protheroe-Thomas bellach yn gweithio i’r cwmni PR Liberty yn Llundain, ac yn dweud bod y Tywysog Charles yn gwneud llawer iawn o waith “anhygoel” yng Nghymru.

“Mae’r gwaith mae e’ wedi’i wneud yn anhygoel yng Nghymru,” meddai. “Ond dw i’n credu y broblem yw, dy’n ni ddim yn ymwybodol ohono fe.

“Mae pobol yn ei farnu e’ heb wybod y ffeithiau i gyd. Mae’n eithaf tawel yn y ffordd mae’n gwneud pethe, a dyw hynny ddim yn beth da iddo fe gyda lot o’r bobol sydd ddim yn ei gefnogi e’, i fod yn onest.

“Ond dw i’n credu y gallwn ni ddod lan ag enw ein hunain [ar gyfer y bont], sy’n golygu rhywbeth i ni.”