Codwr pwysau o Gaergybi yw’r cyntaf o Gymru i gipio medal Aur yng Ngemau’r Gymanwlad draw yn Awstralia.

Fe gododd Gareth Evans 229 kg yn y categori 69kg a chipio’r fuddugoliaeth ar ail ddiwrnod y Gemau.

Yn aelod o Glwb Codi Pwysau Caergybi, yn y gorffennol mae Gareth Evans wedi cystadlu yn y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012 ac mae yn cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad ers 2010.