Dylai corff cadwraeth Llywodraeth Cymru ailddechrau dyfarnu grantiau i berchnogion adeiladau hanesyddol sydd mewn perygl o ddadfeilio.

Dyna yw un o’r argymellion sydd i’w weld yn adroddiad diweddaraf y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, sydd wedi ei gyhoeddi heddiw.

Am gyfnod bu corff Cadw yn dyfarnu grantiau i berchnogion adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig gyda’r nod o’u hatal rhag dirywio.

Ond, cafodd y rhaglen ei hatal, yn ôl y pwyllgor, oherwydd ansicrwydd ariannol. A bellach mae’r Aelodau Cynulliad yn dadlau bod yr amgylchiadau wedi newid a bod lle i ailgyflwyno’r cynllun.

Amgylchedd hanesyddol

Nod adroddiad y pwyllgor oedd craffu ar effaith Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) – deddf sy’n rhoi mwy o ddiogelwch i safleoedd hanesyddol yng Nghymru.

A daw’r Aelodau Cynulliad i’r casgliad bod “cynnydd calonogol” wedi bod yn ei sgil, a’i fod yn “gweithio yn unol â’r bwriad”.

“Yn gyffredinol, credwn fod cynnydd rhesymol wedi’i wneud ers i Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol gael ei phasio, ond mae’n bwysig bod y momentwm hwnnw’n cael ei gynnal,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, yr Aelod Cynulliad, Bethan Sayed.

Argymhellion

Ymhlith 16 o argymhellion y pwyllgor mae:

  • Argymhelliad bod Cadw yn gweithio â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a chyrff eraill, er mwyn cyflwyno dulliau ecogyfeillgar.
  • Argymhelliad bod swyddogion yn cadw llygad ar y rhestr statudol o enwau lleoedd hanesyddol, er mwyn sicrhau bod y rhestr yn effeithiol ac yn cael ei diogelu.

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Rydym yn croesawu’r adroddiad yma, sydd yn cydnabod ein gwaith caled wrth amddiffyn safleoedd treftadaeth a hanesyddol Cymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Wnawn ni ystyried cynnwys yr adroddiad yn llawn, ac ymateb yn ffurfiol yn ôl yr arfer.”