Bydd deddf newydd yn dod i rym ddydd Gwener (Ebrill 6) fydd yn sicrhau bod lefelau staff nyrsio mewn wardiau penodol, yn cael eu cynnal.

O dan y ‘Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru)’ bydd gofyn bod Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn cynnal eu lefelau.

Bydd hyn yn effeithio staff wardiau meddygol a llawfeddygol, sydd yng ngofal oedolion. Staff wardiau ‘acíwt’ fydd yn cael eu diogelu, sef wardiau lle mae cleifion yn aros dros dro.

Bydd y ddeddf hefyd yn sicrhau bod y GIG yn cydnabod barn broffesiynol nyrsys yn “ehangach”, ac yn hwyluso’r broses o gynnal trafodaethau â rhyngddyn nhw a’r byrddau.

“Cam pwysig ymlaen”

“Mae rhoi’r ddeddfwriaeth ar Lefelau Staff Nyrsio ar waith yn gam pwysig ymlaen i Gymru,” meddai’r  Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.

“Ac rydym wedi gwneud hynny am ein bod yn deall bod sylfaen dystiolaeth yn dangos bod gofal nyrsio o ansawdd uchel gyda’r niferoedd iawn a’r cymysgedd iawn o sgiliau’n gwneud gwahaniaeth o bwys i ofal cleifion a chanlyniadau cleifion.”

Yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams wnaeth gyflwyno’r hyn a ddaeth yn Fil Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) ym mis Rhagfyr 2014.