Mae Heddlu De Cymru wedi arestio tri pherson arall mewn cysylltiad â marwolaeth John ‘Jack’ Williams yn Abertawe dros benwythnos y Pasg.

Cafwyd hyd i gorff y dyn 67 oed yn ei gartref yn ardal Pentrechwyth yn y ddinas ddydd Sadwrn, ac mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth gan unrhyw un a oedd yn yr ardal nos Iau.

Fe gyhoeddwyd ddoe bod dynes 31 oed wedi’i arestio, ac mae’r heddlu wedi cadarnhau heddiw ei bod yn parhau yn y ddalfa.

Maen nhw hefyd yn dweud bod tri pherson arall wedi’u harestio neithiwr, sef dau ddyn 45 a 39 oed, ac un ddynes 37 oed.

Mae ymchwiliad i’r digwyddiad yn parhau.