Mae gan Gymru’r potensial i arwain y byd o ran ynni adnewyddadwy a “thechnoleg y genhedlaeth nesaf”, yn ôl un o aelodau Plaid Cymru yn San Steffan.

Daw sylw Liz Saville Roberts wrth iddi alw ar Lywodraeth Prydain i fwrw ymlaen â phrosiect ynni adnewyddadwy Morlyn Llanw Bae Abertawe.

Er i adolygiad annibynnol gael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2017 yn argymell y dylai’r prosiect fynd yn ei flaen, mae’r Llywodraeth wedi methu â gweithredu ymhellach.

Bellach mae Liz Saville Roberts wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a’r Deyrnas Unedig gan eu hannog i egluro beth fydd camau nesaf y cynllun.

“Chwit-chwat”

“Bu San Steffan yn chwit-chwat am yn agos i bedair blynedd ar Forlyn Llanw Bae Abertawe er bod pawb, bron, yn cytuno ar ei werth,” meddai’r Aelod Seneddol.

“Mae’r datblygwr dan bwysau wrth i ddiddordeb a disgwyliadau’r cefnogwyr ariannol bylu, felly mae o’r pwys mwyaf fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan yn cyhoeddi rhestr ac amserlen ddisgwyliedig fyddai’n arwain at gasgliad a phenderfyniad terfynol ynghylch y prosiect.”