Mae llys wedi clywed bod y nofiwr rhyngwladol o Gymru, Otto Putland, wedi treisio dynes a oedd wedi cael rhyw gyda’i ffrind.

Mae’r nofiwr oedd wedi cynrychioli ei wlad yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014 yn gwadu un cyhuddiad o orfodi ei hun arni.

Roedd hi wedi cael rhyw gyda’i ffrind Ieuan Lloyd yn ei gartref ar ddiwedd noson allan ym mis Gorffennaf 2015.

Yn ôl yr erlynydd, doedd gan Otto Putland “ddim parch” tuag at y ddynes, ac roedd e o’r farn ei bod yn “iawn iddo gael rhyw gyda hi oherwydd bod ei ffrind wedi gwneud”.

Clywodd y llys ei fod e wedi meddwi ar y pryd.

Tystiolaeth y ddynes

Clywodd y llys fod Otto Putland a Ieuan Lloyd wedi mynd i glwb nos yng Nghaerdydd, lle gwnaethon nhw gyfarfod â’r ddynes.

Roedd Ieuan Lloyd wedi mynd â’r ddynes adre’, lle gwnaethon nhw gael rhyw.

Clywodd y llys ei fod e wedi gadael yr ystafell wedyn, ac fe glywodd y ddynes y ddau ddyn yn siarad â’i gilydd, a bod Otto Putland wedi mynd i mewn i’r ystafell wedyn a dechrau tynnu ei ddillad.

Roedd y ferch wedi anfon neges destun at ei ffrind yn dweud ei bod hi’n ofni bod “rhywbeth ar fin digwydd” iddi.

Clywodd y llys fod Otto Putland wedi dechrau cusanu’r ddynes a’i bod hi wedi dechrau ei gwestiynu gan ddweud, “Allwch chi ddim fy mhasio i o gwmpas.”

Ar ôl i Otto Putland ddechrau tynnu ei ddillad, cuddiodd y ddynes ei hun mewn ymgais i’w hamddiffyn ei hun, meddai. Roedd hi’n bendant nad oedd hi eisiau rhyw gyda fe.

Dechreuodd e gael rhyw gyda hi cyn iddi ddweud bod rhaid iddi fynd i’r tŷ bach. Ffoniodd hi ei ffrind o’r fan honno a dweud bod rhaid iddi adael, ond roedd hi wedyn yn cofio bod yn ôl yn y gwely gydag Otto Putland.

Mae Otto Putland wedi’i gael yn euog o un achos o dreisio am y digwyddiad hwnnw.

Clywodd y llys fod rhai o ffrindiau’r ddynes wedi mynd i gartre’r ddau ddyn a chael y ddau yn noethlymun, ac Otto Putland yn ei ddagrau.

Gadawodd y ddynes a’i ffrindiau mewn tacsi a gweld meddyg fforensig ddau ddiwrnod yn ddiweddarach, ond wnaeth hi ddim adrodd am y digwyddiad wrth yr heddlu tan fis Tachwedd 2016.

Holi Otto Putland

Cafodd Otto Putland ei holi gan yr heddlu, ac roedd yn cael trafferth cofio’r hyn oedd wedi digwydd. Ond roedd e’n cofio cael rhyw gyda’r ferch a’i bod hi “wedi cydsynio” ar ôl cael rhyw gyda Ieuan Lloyd.

Dywedodd ei fod yn cofio ei bod hi “wedi ypsetio” a’i fod e wedi mynd â hi at y drws cyn iddi adael.

Mae’n gwadu un cyhuddiad o dreisio, ac mae’r achos yn parhau.