Mae nifer y bobol sy’n dysgu Cymraeg trwy gyfrwng yr ap, Duolingo, wedi pasio’r miliwn erbyn hyn.

Mae Duolingo yn ap sy’n cynnig cyrsiau i bobol ar gyfer dysgu nifer o ieithoedd gwahanol, ac ym mis Awst 2016, fe aeth criw o wirfoddolwyr ati i sefydlu cwrs dysgu Cymraeg yn benodol ar gyfer y feddalwedd honno, sef ‘Welsh for English Speakers’.

Ac ymhen dwy flynedd ers ei lansio, mae’r cwrs bellach wedi denu mwy na miliwn o bobol ledled y byd i ddysgu’r Gymraeg, gyda thua 1,000 yn ymuno ag ef yn ddyddiol.

“Anhygoel”

Yn ôl Jonathan Perry o Goleg Gwent, un o sefydlwyr y cwrs, mae’r cyhoeddiad diweddaraf hwn yn “anhygoel”.

“Ry’n ni’n falch iawn o gyrraedd y miliwn yna,” meddai wrth golwg360, “ac yn gobeithio y bydd twf mewn ymwybyddiaeth a defnydd yr iaith o ganlyniad i lwyddiant y cwrs – a llwyddiant yr ap ei hunan, wrth gwrs.”

Mae defnyddwyr Duolingo yn gallu cael mynediad i’r cwrs trwy gyfrwng eu ffonau symudol a’u cyfrifiaduron, ac mae Jonathan Perry yn dweud bod hyn yn help i godi “ymwybyddiaeth” yr iaith ymhellach.

“Mae’r Gymraeg, a’r siawns i ddysgu Cymraeg, yn nwylo pawb, bron,” meddai eto.