Bu farw’r paentiwr tirluniau unigryw, Mihangel Jones. Roedd yn byw yn Nolgellau ac wedi bod yn sâl am beth amser.

Cafodd ei eni ar y ffin rhwng Ceredigion a Sir Drefaldwyn yn 1940, ond symudodd y teulu i Loegr, lle astudiodd yng Ngholeg Celf Twickenham.

Fe fu’n arlunydd llawrydd rhwng 1961 a 1982, gan wneud enw iddo’i hun ym maes darlunio llyfrau a chylchgronau, pecynnu, hysbysebu a phosteri hysbysfyrddau mawr.

Ar ôl ymddeol, dychwelodd i Gymru a throi hen ffermdy o’r unfed ganrif ar bymtheg yn gartref ac yn stiwdio iddo’i hunan.

Roedd yn gredwr mawr mewn chwilio am gyfleoedd i fod yn greadigol, ac yn adnabyddus am ei hoffter o liwiau llachar mewn pastel ac olew.

Câi ei ysbrydoli’n gyson gan rythmau cerddorol, patrwm bywyd beunyddiol, y tymhorau a’r lleuad.