Fe gafodd pobol eu symud o’u cartrefi yn Sir y Fflint, ar ôl i “gemegau a sylweddau eraill” cael eu darganfod mewn fflat.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, fe wnaethon nhw symud pobol o dri fflat yn Bron y Wern ym mhentref Bagillt “rhag ofn”.

Fe gafodd y gwasanaeth tân a thîm diffodd bomiau eu galw i’r safle hefyd, ond mae’r rheiny bellach wedi gadael, ac mae’r heddlu’n dweud nad oedd hyn yn ddigwyddiad “terfysgol”.

Mae’r trigolion bellach wedi cael dychwelyd i’w cartrefi.