Mae ymgyrchwyr iaith yn Wrecsam yn dweud na fyddan nhw’n talu eu treth cyngor, oherwydd “methiannau Cymraeg” eu hawdurdod lleol.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn honni bod Cyngor Wrecsam wedi methu â chywiro gwallau ar y bil treth cyngor blynyddol, er gwaetha’ cwynion rheolaidd ers 2014.

Eleni, mae dwsin o drigolion y sir wedi penderfynu gweithredu. Yn ogystal, mae cwyn wedi ei chyflwyno i Gomisiynydd y Gymraeg.

“Triniaeth deg”

“Dydyn ni ddim yn fodlon aros blwyddyn arall yn y gobaith y bydd y Cyngor efallai o’r diwedd yn cywiro’r biliau i drin y Gymraeg yn deg,” meddai Aled Powell, Cadeirydd Cell Wrecsam.

“Dylai’r mater hwn cymryd cwpwl o oriau i rywun ei ddatrys, nid pum mlynedd.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Wrecsam am ymateb.