Mae wardiau ysbytai yng Nghaerfyrddin a Hwlffordd wedi cael eu cau dros dro, oherwydd achosion o ffliw stumog.

Mae Ward Myrddin yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin; a ward 7 yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd ar gau, a dydi Bwrdd Iechyd Hywel Dda ddim yn gallu dweud ar hyn o bryd pryd y byddan nhw’n ail-agor.

Mae’r ffliw stumog – gastroenteritis – yn gallu achosi dolur rhydd a chyfog, ac mae’n bosib ei ledaenu trwy ddod i gysylltiad â dioddefwyr, trwy ddŵr a bwyd. Mae’n gallu cael effaith ddifrifol ar gleifion bregus.

“Cylchredeg”

“Rydym wedi cael gwybod bod gastroenteritis yn cylchredeg yn y gymuned,” meddai Sharo Daniel, Cyfarwyddwr Nyrsio Cynorthwyoll, Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

“Dw i’n erfyn ar bobol sydd yn teimlo’n sâl – neu sydd wedi bod yng nghwmni person sydd â’r symptomau – i beidio ag ymweld â chleifion ar hyn o bryd.”