Mae ysgolion bach cefn gwlad yn wynebu sawl her anferthol, ac mae angen cynnal trafodaeth genedlaethol er mwyn dod o hyd i atebion iddyn nhw.

Dyna yw safbwynt Dilwyn Roberts-Young, sy’n Is-ysgrifennydd Cyffredinol ar Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC), ac yn eu cynrychioli yn y gogledd.

“R’ych chi’n edrych ar ysgolion bychain, ac mae’r llwyth gwaith sydd yna’r un fath ag unrhyw ysgol arall,” meddai wrth golwg360. “Mae’r disgwyliadau yna yn anferthol.”

Mae’n nodi bod yna “bryder” o ran gallu ysgolion gwledig i gynnal y cwricwlwm, ac mae’n tynnu sylw at heriau unigryw sy’n wynebu athrawon ysgolion bach.

“Efallai weithiau mae yna ddosbarth llai mewn ysgol fach,” meddai. “Ond yr ochr arall i’r geiniog o ran hynny yw bod yr athrawon yna yn dysgu nifer o [grwpiau] oedran  o fewn y dosbarth.

“Gallwch chi fod yn dysgu dau, tri, pedwar [grŵp] oedran yn eich dosbarth. Felly dydi cael llai o ddisgyblion yn eich dosbarth ddim yn mynd llaw yn llaw â lleihad yn y llwyth gwaith.”

Datganoli

Yn ogystal â chynnal trafodaeth ar y mater ar lefel Cymreig, mae’n nodi bod “datganoli bob agwedd o addysg” yn rhan o’r ateb.

Ac mi fydd yn hyn yn digwydd o fis Medi ymlaen, meddai, pan fydd rheolaeth tros gyflogau ac amodau gwaith athrawon yn cael eu datganoli i Lywodraeth Cymru.

Daw sylwadau Dilwyn Roberts-Young wedi i aelodau’r Undeb Addysg Genedlaethol alw am ddiogelu statws ysgolion gwledig yn eu cynhadledd heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 3).