Mae 77 o sefydliadau yng Nghymru yn mynd i fod yn derbyn hwb ariannol o £4.2m gan Lywodraeth Cymru er mwyn hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg.
Yn ôl Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, mae’r arian yn cael ei roi fel rhan o ymdrech Llywodraeth Cymru i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i sicrhau nad yw’r Gymraeg yn bodoli “fel iaith y dosbarth yn unig”.
Ymhlith y sefydliadau a fydd yn elwa’n uniongyrchol o’r gronfa hon, mae:
- Yr Eisteddfod Genedlaethol (£603,000);
- Cymdeithas Eisteddfodau Cymru (£46,036);
- Mentrau Iaith Cymru (£110,000);
- Merched y Wawr (£84,205);
- Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru (£89,719)
- Papurau Bro (£87,810)
- Urdd Gobaith Cymru (£852,184)
- Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru (£50,000).
Cyrraedd y “targed uchelgeisiol”
“Mae cyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050 yn darged uchelgeisiol iawn,” meddai Eluned Morgan, “ac er bod addysg yn allweddol i wireddu’r nod yma, mae defnyddio’r iaith bob dydd ym mhob agwedd ar fywyd yr un mor bwysig.
“All y Gymraeg ddim bodoli fel iaith y dosbarth yn unig. Er mwyn iddi ffynnu, mae’n ddyletswydd arnon ni i gyd, siaradwyr y Gymraeg ei defnyddio.
“Mae’r sefydliadau sydd wedi’u hariannu gan y grantiau hyn yn rhoi llawer o gyfleoedd i blant, pobol ifanc ac oedolion i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol.”