Mae gyrrwr a oedd wedi bod mewn gwrthdrawiad a char arall wrth yrru’r ffordd anghywir ar yr A55 wedi ymddangos yn y llys.
Cafodd dynes anafiadau difrifol yn dilyn y gwrthdrawiad yn Llanddulas ger Abergele ddydd Gwener.
Yn ystod gwrandawiad arbennig gerbron ynadon yn Llandudno heddiw, clywodd y llys bod David Shaw wedi bod yn yfed wisgi cyn iddo ddechrau gyrru ei gar ar yr A55.
Mae David Shaw, 42 oed, o Bensarn yn Abergele wedi pledio’n euog i gyhuddiad o achosi niwed drwy yrru’n beryglus.
Dywedodd yr erlyniad bod yr heddlu wedi derbyn nifer o alwadau 999 am tua 1yp ar Ddydd Gwener y Groglith gan lygad-dystion a oedd wedi gweld car David Shaw yn gyrru i gyfeiriad y gorllewin ar lon ddwyreiniol yr A55 rhwng Abergele a Llanddulas.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon yn ddiweddarach y mis hwn.
Fe achosodd y gwrthdrawiad problemau traffig sylweddol ar Ddydd Gwener y Groglith.