Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i farwolaeth carcharor 22 oed yng Ngharchar y Berwyn yn Wrecsam.
Mae’r heddlu wedi cadarnhau bod carcharor wedi marw yno ar ddydd Sadwrn, 31 Mawrth.
Nid yw’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ar hyn o bryd.
Mae’r heddlu’n cydweithio’n agos â Charchar y Berwyn i sefydlu’r amgylchiadau ar ran y Crwner.
Nid ydyn nhw’n gallu rhoi sylw pellach ar hyn o bryd.
Fe agorodd Carchar y Berwyn ym mis Chwefror.